National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Health and Social Care Committee/ Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Public Health (Wales) Bill/ Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)

 

Evidence from Helen Smith – PHB 60 / Tystiolaeth gan Helen Smith – PHB 60

 

 

Annwyl Syr/ Fadam,

 

Rwy wedi cael gwybodaeth am y bil uchod, yn enwedig yng nghyswllt defnydd baco, o Ash Cymru, ac yn ysgrifennu atoch i fynegi anfodlonrwydd ynglŷn â’r bwriad i wahardd e-sigarennau o fannau cyhoeddus caeedig. Yn fy nhyb i, moddion yw e-sigarennau – cymorth i roi’r gorau i smygu, ac iddynt yr un pwrpas yn union â gymiau cnoi â nicotin, losin â nicotin ayyb, h.y. therapi amnewid, er mwyn helpu smygwyr i roi’r gorau iddi’n raddol trwy ddogni’r dogn o nicotîn a gymerant i mewn, a hynny heb y gwenwynau sy’n cysylltiedig â sigaret arferol, megis seianeid, arsenic, tar ac ati. Yn hyn o beth, mae e-sigarennau’n ddull o leihau niwed. O’r herwydd, dwy ddim yn credu y byddai’n briodol eu gwahardd o fannau dan do, megis swyddfeydd neu dafarnau. Yn hytrach, credaf mai’r ffordd orau i ymdrin ag e-sigarennau fyddai lansio ymgyrch dros eu marchnata a’u gwerthu fel moddion, a moddion yn unig (fel cynhyrchion Nicorette neu Nicotinelle ayyb), er mwyn cyfleu’r neges wrth y cyhoedd nad cyffur adloniannol o gwbl mohonynt, a bod nicotin yn wenwyn caethiwus y mae angen ei waredu o’r system. Yn fy meddwl i, dyma fyddai’r ffordd fwyaf synhwyrol ymlaen, a gobeithio y bydd y Cynulliad yn gweld y ffordd yn glir i hyrwyddo pob dull o leihau’r niwed a ddaw o ysmygu, yn hytrach na gwahaniaethu’n erbyn un dull yn benodol.

 

Yn gywir,

 

Helen Kalliope Smith